JackHUGHESDymuna Irene a Kevin ddiolch o galon am bob caredigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli Gwr a Tad arbennig. Diolch am y llu o gardiau, ymweliadau a galwadau ffôn am y rhoddion at Gymdeithas Y Stroc er cof amdano. Diolch yn arbennig i Ward Glyder Ysbyty Gwynedd a Staff Canolfan Iechyd Llanfairpwll. Diolch i'r Parchedig Ganon Emlyn C. Williams am wasanaeth teimladwy ar deyrnged, ac i Mrs Ann Hughes yr organyddes. Hefyd i Gwenan a Morfudd o W. O. a M. Williams am eu trefniadau gofalus.
Keep me informed of updates